We are delighted to share some inspiring news about one of our remarkable young students making a difference in Wales. Tammi has been elected as a Member of the Welsh Youth Parliament, representing Learning Disability Wales, a passionate advocate for inclusivity and ensuring young people with disabilities have a voice.
Mae’n bleser gennym rannu newyddion ysbrydoledig am un o’n myfyrwyr ifanc sy’n gwneud gwahaniaeth yng Nghymru. Mae Tammi wedi’i hethol yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, yn cynrychioli Anabledd Dysgu Cymru, yn eiriolwr angerddol dros gynwysoldeb a sicrhau bod gan bobl ifanc ag anableddau lais.

As a Welsh Youth Parliament Member, Tammi will work alongside other young representatives to influence policies and raise awareness of important issues affecting young people in Wales. Her story is a fantastic example for our students, encouraging them to take on new opportunities and believe in their abilities. We hope this inspires our school to continue fostering an inclusive and supportive environment for all young people.
Fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, bydd Tammi yn gweithio ochr yn ochr â chynrychiolwyr ifanc eraill i ddylanwadu ar bolisïau a chodi ymwybyddiaeth o faterion pwysig sy’n effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru. Mae ei stori yn enghraifft wych i’n myfyrwyr, gan eu hannog i gymryd cyfleoedd newydd a chredu yn eu galluoedd. Gobeithiwn y bydd hyn yn ysbrydoli ein hysgol i barhau i feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol i bob person ifanc.
To read more about Tammi’s journey, you can visit the article here.
I ddarllen mwy am daith Tammi, gallwch ymweld â'r erthygl yma.